craftcourse
Dosbarth Pyrogrefft gyda Mr Kobo 11/7/26
Dosbarth Pyrogrefft gyda Mr Kobo 11/7/26
Methu â llwytho argaeledd casglu
1yh - 4yh
Treuliwch brynhawn creadigol yn archwilio celf pyrogrefft — lluniadu gyda gwres ar bren. Mae’r gweithdy ymarferol a hamddenol hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr ac ar gyfer y rhai sydd eisiau datblygu technegau addurno newydd.
Byddwch yn dechrau drwy ddysgu sut i ddefnyddio offer pyrogrefft yn ddiogel ac yn hyderus, gan arbrofi gyda gwahanol dechnegau gwneud marciau ar ddarnau ymarfer o bren. Trwy ymarferion dan arweiniad, byddwch yn archwilio llinell, gwead, patrwm a chysgodi er mwyn creu dyluniadau mynegiannol ar wyneb pren.
Unwaith y byddwch yn teimlo’n gyfforddus gyda’r technegau, byddwch yn symud ymlaen i greu darn gorffenedig eich hun. Gall yr opsiynau gynnwys clawr pren ar gyfer llyfr braslunio (gyda llyfr braslunio wedi’i gynnwys), careg bren llyfn a all gael ei throi’n dlws crog neu’n wrthrych cyffyrddol wedi’i addurno gyda delwedd ystyrlon, panel pren crwn, neu wrthrych pren bach arall yn barod i’w addurno.
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gadael gyda:
- Dealltwriaeth o dechnegau pyrogrefft sylfaenol
- Samplau ymarfer yn archwilio gwneud marciau a gwead
- O leiaf un darn pren addurnedig gorffenedig i fynd adref gyda chi
Bydd yr holl ddeunyddiau a’r offer yn cael eu darparu.
Cynhelir y cwrs yng ngweithdy Siop iard (i fyny’r grisiau – dim mynediad lifft).
Rhannu




