Polisi preifatrwydd

Mae Siop iard yn cynnwys un siop fanwerthu ag arlein a rhaglen o cyrsiau crefft blynyddol. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon neu prynnu cynnyrch a/ neu cwrs.

Pa wybodaeth a gasglwn amdanoch chi?

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn ymuno â'n rhestr bostio a phan byddwch yn gwneud archeb am gynhyrchion neu wasanaethau. Cesglir gwybodaeth o'r wefan gan ddefnyddio cwcis.

Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth amdanoch chi?

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i brosesu eich archeb ac os ydych yn cytuno, i'ch e-bostio am gynhyrchion, gwasanaethau a chyrsiau eraill y credwn allai fod o ddiddordeb i chi. 

Ni fydd Siop iard yn rhannu eich gwybodaeth at ddibenion marchnata gydag unrhyw un y tu allan i Siop iard

Marchnata

Hoffem anfon gwybodaeth atoch ynglyn a'n cynhyrchion, gwasanaethau a chyrsiau a allai fod o ddiddordeb i chi. Os ydych wedi rhoi caniatâd i dderbyn marchnata, gallwch ddewis peidio at unrhyw amser yn y dyfodol.

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i'n hatal rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata.

Os nad ydych eisiau i ni gysylltu â chi at ddibenion marchnata, gallwch di-danysgrifio'n hawdd drwy ddefnyddio'r botwm ' unsubscribe' ar waelod ein holl e-byst marchnata.

Mynediad i'ch gwybodaeth a cywiro

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os hoffech gael copi o rywfaint o'ch gwybodaeth bersonol neu'r cyfan ohoni, anfonwch e-bost atom. Efallai y byddwn yn codi tâl bach am y gwasanaeth hwn.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfoes. Cewch gofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.

Cwcis

Ffeiliau testun sydd wedi'u gosod ar y cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth cofnod safonol am log y rhyngrwyd a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr yw cwcis.  Defnyddir y wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o'r wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.allaboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis ac mae'r gwefannau uchod yn dweud wrthych sut i dynnu cwcis o'ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai na fydd rhai o'n nodweddion gwefan yn gweithio o ganlyniad i hyn.

Gwefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'r wefan hon y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol felly pan fyddwch yn cysylltu â gwefannau eraill dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd eu hunain.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 14 Mai 2018.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch drwy e-bost.