Telerau gwasanaeth

Prynnu darn o emwaith arlein:

Archebu darn o emwaith: 

Gallwch bori trwy ein dewis o emwaith wedi'u gwneud â llaw yn ein siop ar-lein. 

Gallwch dalu gan ddefnyddio cerdyn credyd/ debyd neu tocyn anrheg Siop iard.

Talu gyda thaleb anrheg Siop iard: 

Os oes gennych daleb gallwch ei defnyddio i dalu ar-lein trwy ddewis 'Talu gyda Tocyn Anrheg' wrth y ddesg dalu. Nodwch rhif y daleb a'i gwerth yn y blwch a ddarperir wrth y ddesg dalu. Os ydych chi'n gwario mwy nag y mae'r daleb yn werth, byddwn yn anfon anfoneb e-bost atoch. 

Postio:

Rydyn ni'n defnyddio'r Post Brenhinol. Cewch ddewis pa wasanaeth yr hoffech chi. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig postio dosbarth cyntaf,  gwasanaeth  gyda Llofnod neu danfoniad arbennig wedi'i yswirio'n llawn. 

Dychwelyd eitem:

Mae ein polisi dychwelyd yn berthnasol y gallwch ei ddarllen yma


Cyrsiau Crefft:

Archebu cwrs crefft:

Mae ein gweithdai ar gael i brynnu arlein, ond os oes well gennych cewch ymweld a'n siop yng Nghaernarfon neu ffonio ni i archebu gyda cerdyn dros y ffôn. Os oes gennych tocyn anrheg, gallwch barhau i archebu'ch cwrs ar-lein fel y soniwyd uchod.

Disgwylir taliad llawn ar pob archeb.Yn anffodus nid ydym yn gallu derbyn archebion dros dro na blaendal.

Mae cost y gweithdai yn cynnwys cyllideb ar gyfer defnyddiau os na ddangosir yn wahanol yn y disgrifiad.

Rydych yn derbyn ein polisi canslo pan yn gwneud archeb.

*NODYN PWYSIG* Mae’r cyrsiau i gyd yn cael ei rhedeg mewn ystafell adnoddau drws nesaf i'n siop yng Nghaernarfon. Mae cyrsiau gofannu yn cael ei rhedeg ym Mharc Glynllifon, tua 6 milltir o’r dref.

Pwy all fynychu cwrs crefft Siop iard?

Mae gweithdai ‘Siop iard’ yn addas i unigolion dros 18oed yn unig. Nid ydym yn derbyn archebion ar gyfer plant neu bobl ifanc.

Beth fydd yn digwydd os bydd Siop iard yn canslo cwrs?

Mae gan ‘Siop iard’ yr hawl i ohurio unrhyw ddigwyddiad ar fur rybudd neu fel arall. Yn yr achos yma bydd y cwsmer yn derbyn ad-daliad llawn. 

Beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid i mi ganslo fy lle ar gwrs? 

Mae ein polisi canslo yn berthnasol y gallwch ei ddarllen yma