Neidio i 'wybodaeth cynnyrch
1 o 9

craftcourse

Boglynnu darlun Bywyd Llonydd mewn Copr 24/10/2026

Boglynnu darlun Bywyd Llonydd mewn Copr 24/10/2026

Pris Arferol £80.00 GBP
Pris Arferol Pris Sêl £80.00 GBP
Sêl Wedi Gwerthu Allan
Treth wedi'i chynnwys. Cludo wedi'i gyfrifo wrth y ddesg dalu.

10:00yb - 15.00yh

Lleoliad: Siop iard gyda Ann Catrin Evans.

Mae copr yn ildio i bwyso, nid grym. Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i boglynnu delweddaeth ‘bywyd llonydd’ mewn copr tennau gan ddefnyddio dulliau syml sy'n dileu'r defnydd o “pitch”. Byddwn yn canolbwyntio ar egluro ffurf, gyda dyfnder isel, drwy ymgysylltu yn  uniongyrchol â'r deunydd hefo twlsyn arlunio.

Mi fyddwch yn gweithio i ddarlunio rhywbeth sy mewn gosodiad bywyd llonnydd och blaen. Gan ddefnyddio offeryn llaw, deunyddiau meddal, a gweithio dro ar ôl tro o’r ochr flaen a chefn y ddalen copr meddal. Mi welwch sut i baratoi y copr, defnyddio offer yn ddiogel, ffurfio cynyddrannol, a mireinio arwyneb, gyda phwyslais ar symlrwydd ac effeithlonrwydd yn y broses.

Gyda copr 0.1mm tennau mae'r cwrs yn bosib boglynnu yn haws i bawb, heb aberthu manylder. Rhoddir sylw i sut mae golau yn diffinio ffurf a sut mae pwysau bwriadol yn creu dyfnder a rhythm ar draws yr wyneb.

Bydd patineiddio'r llun yn gwella'r dyluniad ac yn gorffen y wynab gyda chwyr.

Bydd ganddoch ar y diwedd llun bywyd llonydd copr gorffenedig gyda sgiliau boglynnu ymarferol y gellir eu trosglwyddo'n hawdd i waith metel, cerflunio, gwneud cardiau ac arferion celf deunyddiau cymysg—wedi'u seilio ar amynedd, manwl gywirdeb a pharch at y deunydd.

Gweld y manylion llawn