craftcourse
Creu Fasged Helig Asymetrig 17/10/2026
Creu Fasged Helig Asymetrig 17/10/2026
Methu â llwytho argaeledd casglu
10yb–4.00yp
Gyda Eirian Muse o Helyg Lleu – Instagram: @Helyg_Lleu
Dysgwch dechnegau gwehyddu i greu basged unigryw wedi’i wneud o helyg, gyda dolen broc mor.
Yn y gweithdy ymarferol hwn, byddwch yn archwilio patrymau gwehyddu, dulliau siapio, a gorffennu naturiol, gan adael gyda basged unigryw wedi cerflunio i fynd adref.
Ers darganfod gwehyddu helyg yn 2017, mae Eirian wedi datblygu ei ymarfer yn llawn amser, gan gyfuno technegau traddodiadol gyda dylunio cyfoes. Gan ddefnyddio helyg adnewyddadwy, brethyn gwlân Cymreig a deunyddiau naturiol, mae hi’n creu darnau lliwgar, ymarferol ar gyfer defnydd bob dydd a mewnolion. Mae ei gwaith yn archwilio siap, gwead a ailadrodd—lle mae crefft a chelf yn cyfarfod.
Mae Eirian wedi arddangos a chynnal gweithdai gyda Yr Ysgwrn, Oriel Plas Glyn y Weddw, Galeri, ac fel artist preswyl yng Nghernyw.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn Llety Arall, drws nesaf i Siop Iard.
Rhannu




