craftcourse
Gwneud gemwaith mwclis gydag Angela Evans 14/2/2026
Gwneud gemwaith mwclis gydag Angela Evans 14/2/2026
Methu â llwytho argaeledd casglu
10am-1pm
Ydych chi’n barod i fod yn greadigol gyda lliw?
Treuliwch y bore'n chwarae gyda chlwstwr hyfryd o fwclis gwydr lliwgar. Dysgwch sut i weithio gyda gwifren a’r darnau sy’n cysylltu’r gemwaith i greu rhywbeth hollol unigryw - gall fod yn dlws gyda phin, pendant, neu hyd yn oed campwaith sy'n gweithio fel y ddau!
Sylwch nad cwrs sy’n defnyddio llinyn mwclis yw hwn - byddwn yn gweithio gyda gwifren i adeiladu siâp a ffurf.
Cynhelir y cwrs crefft yn Siop iard Caernarfon.
Mae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes wedi'i hysbrydoli gan harddwch naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad, ac mae modd eu gweld a'u prynu ar ei gwefan. Mae Angela yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac ar gyfer achlysuron arbennig, mewn arian, aur, platinwm a cherrig gwerthfawr. Mae Angela hefyd yn arbenigo mewn ail-greu darnau gwerthfawr o’r gorffennol ac eu trawsnewid i emwaith modern newydd.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gwneud gemwaith, mae Angela yn un o bartneriaid sylfaenol Siop iard.
Mae Angela'n dod â blynyddoedd o brofiad addysgu i'w gwaith - o ddarlithio mewn coleg i brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol. Gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn addysg, mae Angela hefyd wedi hyfforddi mewn technegau uwch fel gosod cerrig yn ogystal â thoddi a chymysgu aur. Cewch athrawes gyfeillgar a hawdd siarad â hi, gyda digon o brofiad a straeon diddorol i'w rhannu!
Rhannu




