craftcourse
Creu dau bâr o glustdlysau arian gydag Anglea Evans 01/11/2025
Creu dau bâr o glustdlysau arian gydag Anglea Evans 01/11/2025
Methu â llwytho argaeledd casglu
10am-4pm
Byddwch yn dechrau’r dydd drwy greu clustdlysau styd gyda gwead hyfryd - cewch feistroli’r torri, creu gwead, sodro a sgleinio. Yna, yn yr awr olaf, byddwn yn defnyddio techneg cyflym iawn i greu clustdlysau crog cain gan berffeithio eich sgiliau siapio a defnyddio gefail.
Erbyn amser mynd adref, byddwch yn berchen ar ddau bâr o glustdlysau arian sy'n berffaith ar gyfer unrhyw achlysur - un i’w gwisgo bob dydd a’r llall i nosweithiau allan arbennig.
Cynhelir y cwrs crefft yn Siop iard.
Mae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes wedi'i hysbrydoli gan harddwch naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad, ac mae modd eu gweld a'u prynu ar ei gwefan. Mae Angela yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac ar gyfer achlysuron arbennig, mewn arian, aur, platinwm a cherrig gwerthfawr. Mae Angela hefyd yn arbenigo mewn ail-greu darnau gwerthfawr o’r gorffennol ac eu trawsnewid i emwaith modern newydd.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gwneud gemwaith, mae Angela yn un o bartneriaid sylfaenol Siop iard.
Mae Angela'n dod â blynyddoedd o brofiad addysgu i'w gwaith - o ddarlithio mewn coleg i brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol. Gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn addysg, mae Angela hefyd wedi hyfforddi mewn technegau uwch fel gosod cerrig yn ogystal â thoddi a chymysgu aur. Cewch athrawes gyfeillgar a hawdd siarad â hi, gyda digon o brofiad a straeon diddorol i'w rhannu!
Rhannu




