craftcourse
Creu pendant gyda charreg werthfawr ac arian, gydag Angela Evans 10/1/2026
Creu pendant gyda charreg werthfawr ac arian, gydag Angela Evans 10/1/2026
Methu â llwytho argaeledd casglu
10am-1pm
Mae’r gweithdy creadigol yma yn gyfle i ddathlu dyluniad cyfoes a deunyddiau cain. Gan weithio gydag arian sterling a cherrig gwerthfawr wedi'u dewis â llaw, byddwch yn dylunio ac yn gwneud eich tlws eich hun gan ddefnyddio technegau mecanyddol cain - does dim angen sodro.
Dan arweiniad y gemydd Angela Evans, byddwch yn archwilio sut i ffurfio a siapio gwifren arian gan ddefnyddio offer arbenigol, a chreu gwead trwy wneud patrymau addurniadol gyda morthwyl. Byddwch yn cyflwyno lliw cyfoethog a chyferbyniad trwy gynnwys sleisen o garreg werthfawr naturiol.
Mae'r ffocws ar gre waith ystyriol sy’n dathlu harddwch cynhenid y deunyddiau. Ewch adref gyda darn gorffenedig o emwaith cyfoes—yn unigryw, yn bersonol, ac wedi'i gre io gennych chi.
Mae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes wedi'i hysbrydoli gan harddwch naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad, ac mae modd eu gweld a'u prynu ar ei gwefan. Mae Angela yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac ar gyfer achlysuron arbennig, mewn arian, aur, platinwm a cherrig gwerthfawr. Mae Angela hefyd yn arbenigo mewn ail-greu darnau gwerthfawr o’r gorffennol ac eu trawsnewid i emwaith modern newydd.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gwneud gemwaith, mae Angela yn un o bartneriaid sylfaenol Siop iard.
Mae Angela'n dod â blynyddoedd o brofiad addysgu i'w gwaith - o ddarlithio mewn coleg i brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol. Gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn addysg, mae Angela hefyd wedi hyfforddi mewn technegau uwch fel gosod cerrig yn ogystal â thoddi a chymysgu aur. Cewch athrawes gyfeillgar a hawdd siarad â hi, gyda digon o brofiad a straeon diddorol i'w rhannu!
Rhannu

