{"product_id":"create-a-sterling-silver-and-gemstone-pendant-with-angela-evans-16-01-2026","title":"Creu pendant gyda charreg werthfawr ac arian, gydag Angela Evans 16\/1\/2027","description":"\u003cp\u003e10am-1pm\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae’r gweithdy creadigol yma yn gyfle i ddathlu dyluniad cyfoes a deunyddiau cain. Gan weithio gydag arian sterling a cherrig gwerthfawr wedi'u dewis â llaw, byddwch yn dylunio ac yn gwneud eich tlws eich hun gan ddefnyddio technegau mecanyddol cain - does dim angen sodro.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cbr\u003eDan arweiniad y gemydd Angela Evans, byddwch yn archwilio sut i ffurfio a siapio gwifren arian gan ddefnyddio offer arbenigol, a chreu gwead trwy wneud patrymau addurniadol gyda morthwyl. Byddwch yn cyflwyno lliw cyfoethog a chyferbyniad trwy gynnwys sleisen o garreg werthfawr naturiol.\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cbr\u003eMae'r ffocws ar gre waith ystyriol sy’n dathlu harddwch cynhenid y deunyddiau. Ewch adref gyda darn gorffenedig o emwaith cyfoes—yn unigryw, yn bersonol, ac wedi'i gre io gennych chi.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eMae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes wedi'i hysbrydoli gan harddwch naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad, ac mae modd eu gweld a'u prynu ar ei \u003ca href=\"angela-evans.co.uk\" title=\"Angela-evans Jewellery\"\u003egwefan\u003c\/a\u003e. Mae Angela yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac ar gyfer achlysuron arbennig, mewn arian, aur, platinwm a cherrig gwerthfawr. Mae Angela hefyd yn arbenigo mewn ail-greu darnau gwerthfawr o’r gorffennol ac eu trawsnewid i emwaith modern newydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eGyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gwneud gemwaith, mae Angela yn un o bartneriaid sylfaenol \u003ca href=\"siopiard.co.uk\" title=\"Siop Iard\"\u003eSiop iard\u003c\/a\u003e.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eMae Angela'n dod â blynyddoedd o brofiad addysgu i'w gwaith - o ddarlithio mewn coleg i brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol.\u0026nbsp;Gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn addysg, mae Angela hefyd wedi hyfforddi mewn technegau uwch fel gosod cerrig yn ogystal â thoddi a chymysgu aur. Cewch athrawes gyfeillgar a hawdd siarad â hi, gyda digon o brofiad a straeon diddorol i'w rhannu!\u003c\/p\u003e","brand":"craftcourse","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54859130437971,"sku":"6","price":95.0,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0831\/3405\/4739\/files\/PicofGemstonependant1.jpg?v=1761494450","url":"https:\/\/www.siopiard.com\/cy\/products\/create-a-sterling-silver-and-gemstone-pendant-with-angela-evans-16-01-2026","provider":"Siop iard","version":"1.0","type":"link"}