{"product_id":"create-a-set-of-silver-stacking-rings-with-angela-evans-31-10-2026","title":"Creu set o fodrwyau stacio mewn arian gydag Angela Evans 31\/10\/2026","description":"\u003cp\u003e10yb - 4yh\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eYdych chi\u003cspan style=\"mso-ascii-font-family: Calibri; mso-hansi-font-family: Calibri; mso-bidi-font-family: Calibri;\"\u003e’\u003c\/span\u003en barod i wneud modrwyau y byddwch chi wirioneddol eisiau eu gwisgo? Treuliwch y bore'n gweithio gyda chopr, meistroli’r llif rhwyllo, gwneud gweadau hyfryd gyda morthwyl, ac arbrofi gyda stampiau metel.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eYna, defnyddiwch y sgiliau newydd hynny a chreu eich set syfrdanol eich hun o fodrwyau stacio arian - yn cynnwys sodro, gorffen a sgleinio.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eCynhelir y cwrs crefft yn Siop iard Caernarfon.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eMae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes wedi'i hysbrydoli gan harddwch naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad, ac mae modd eu gweld a'u prynu ar ei \u003ca href=\"angela-evans.co.uk\" title=\"Angela Evans Jewellery\" rel=\"noopener\" target=\"_blank\"\u003egwefan\u003c\/a\u003e. Mae Angela yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac ar gyfer achlysuron arbennig, mewn arian, aur, platinwm a cherrig gwerthfawr. Mae Angela hefyd yn arbenigo mewn ail-greu darnau gwerthfawr o’r gorffennol ac eu trawsnewid i emwaith modern newydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eGyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gwneud gemwaith, mae Angela yn un o bartneriaid sylfaenol \u003ca href=\"siopiard.com\" title=\"Siop iard\"\u003eSiop iard\u003c\/a\u003e.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\"\u003eMae Angela'n dod â blynyddoedd o brofiad addysgu i'w gwaith - o ddarlithio mewn coleg i brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol. Gyda chymhwyster ôl-raddedig mewn addysg, mae Angela hefyd wedi hyfforddi mewn technegau uwch fel gosod cerrig yn ogystal â thoddi a chymysgu aur. Cewch athrawes gyfeillgar a hawdd siarad â hi, gyda digon o brofiad a straeon diddorol i'w rhannu!\u003c\/p\u003e","brand":"craftcourse","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54397311156563,"sku":null,"price":145.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0831\/3405\/4739\/files\/Screenshot_20240211_140948.jpg?v=1761495106","url":"https:\/\/www.siopiard.com\/cy\/products\/create-a-set-of-silver-stacking-rings-with-angela-evans-31-10-2026","provider":"Siop iard","version":"1.0","type":"link"}